Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Chydlynu Trefniadau Derbyn Ysgolion) (Cymru) 2024

 

 

Pwynt Craffu Technegol 1:                     Nid yw Llywodraeth Cymru yn cytuno â’r pwynt craffu technegol. Mae adran 89C(1) o Ddeddf 1998 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth ynghylch cynnwys cynlluniau o dan adran 89B(2) (“cynlluniau”). Mae adran 89C(2) yn darparu pŵer penodol pellach i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n darparu bod y darpariaethau ym Mhennod 1 a Phennod 2 o Ran 2 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 i fod yn gymwys i gynlluniau. Felly, mae’r pŵer yn adran 89C(2) yn gwneud mwy na dim ond dangos pa ddarpariaeth y gellir ei gwneud o dan adran 89C(1) (“y pŵer penodol”). Roedd angen dibynnu ar adran 89C(2) o Ddeddf 1998 gan fod rheoliad 2(3) o Reoliadau 2024 yn diwygio’r ddarpariaeth yn y prif Reoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Chydlynu Trefniadau Derbyn i Ysgolion) (Cymru) 2024 a oedd yn cymhwyso Deddf 2013 i’r cynlluniau. Mae dibynnu ar y pŵer penodol yn fwy tryloyw i’r darllenydd.

Mae’r Memorandwm Esboniadol yn disgrifio’r cefndir deddfwriaethol llawn yn adrannau 89B a 89C ond mae’n gwbl gyson â’r pwerau galluogi a nodir yn Rheoliadau 2024 ac felly mae’n cyfeirio at adrannau 89B(1), 89C(2) a 92 o Ddeddf 1998.